Prydlondeb

Disgwir i bob plentyn gyrraedd yr safle erbyn 8:55 a.m. fel ei bod yn y dosbarthiadau ebyn 9:00a.m. Os bydd Disgyblion yn cyrraedd yn hwyr mae’n rhaid i’r oedolyn gwblhau y ffurflen yn yr iPad Plant Sy’n Cyrraedd yn Hwyr a leolir yn y brif fynedfa.
Every child is expected to be on the site by 8:55 a.m. so that they are ready to be in their classes for 9:00 a.m. If pupils arrive late the adult will need to complete the form in the Late Arrivals iPad located in the reception area.

Absenoldeb

Os bydd disgybl yn absennol am unrhyw reswm arall, gofynnir i’r rhieni i ffonio ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb ac yna i ddanfon nodyn ysgrifenedig neu e-bost gyda’r plentyn ar ei d/ddiwrnod cyntaf yn ôl i egluro’r absenoldeb – nid yw eglurhad llafar gan y plentyn yn dderbyniol. Mae absenoldeb heb ei awdurdodi yn absenoldeb nad yw’n cael ei gymeradwyo neu nad oes esboniad digonol drosto. Bydd yr ysgol yn monitro disgyblion sy’n hwyr ac yn absennol yn ofalus a chyson iawn.

Bydd yr athrawon dosbarth yn hysbysu’r Pennaeth os bydd disgyblion yn absennol neu’n hwyr yn rheolaidd. Bydd y pennaeth yn cysylltu â’r rhieni er mwyn ceisio datrys y sefyllfa. Os bydd y sefyllfa yn parhau, hysbysir y Swyddog Lles Addysgol (EWO). Rôl y Swyddog yw helpu’r rhieni a’r Awdurdod Addysg Lleol i sylweddoli eu cyfrifoldebau statudol o ran presenoldeb ysgol.

Swyddog penodedig Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yw Claire Bennett