Derbynir plant i’r dosbarth Meithrin (rhan amser) y tymor ar ôl eu penblwydd yn dair mlwydd oed ac i’r Derbyn yn llawn amser yn y mis Medi sy’n dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed. Yr A.A.Ll. sy’n gyfrifol am dderbyn plant i ysgolion ac mae polisi derbyn yr A.A.Ll. yn weithredol yn yr ysgol hon. Gweler gwefan Cyngor Dinas Casnewydd am dalgylchoedd ysgolion Casnewydd. Gellir cael ffurflenni mynediad drwy’r ysgol neu oddi wrth yr A.A.Ll., ar ddiwedd tymor yr Hydref cyn i’r plentyn ddechrau’r ysgol y mis Medi canlynol. Yn unol â rheoliadau’r Llywodraeth Cymru, adolygwyd rhif Derbyn yr ysgol i 30 o blant yn flynyddol.

Yn ystod y tymor cyn iddynt ddechrau’r ysgol, gwahoddir y plant a’u rhieni/gwarchodwyr i dreulio amser yn yr ysgol, er mwyn rhoi’r cyfle iddynt ddod i adnabod ei gilydd, yr athrawon a’r cymorthyddion. Cyflwynir prospectws i bob rhiant/teulu sy’n ymuno â’r ysgol yn amlinellu agweddau gweithredol yr ysgol.

Ffurflen Cofrestri