Meithrin Derbyn – Blwyddyn 2: Blwyddyn 3 - 6:
09:00 – 11:30 Ysgol yn dechrau – 09:00 Ysgol yn dechrau – 09:00
  Egwyl Bore – 10:30-10:45 Egwyl Bore – 10:30-10:45
  Amser Cinio – 11:45 Amser Cinio – 12:00
  Sesiwn Prynhawn – 12:45 Sesiwn Prynhawn – 12:45
  Egwyl Prynhawn – 14:15-14:30 Egwyl Prynhawn – 14:00-14:15
  Ysgol yn Gorffen – 3:15 Ysgol yn Gorffen – 3:15

 

Trefniadau’r Bore

Hysbysir y rhieni na ddylai eu plant gyrraedd yr ysgol cyn 8:50am. O 8:50 cerddwyr i fynd drwy’r giat werdd gyda’i rhieni i waelod grisiau’r brif fynedfa a mynd mewn i’r ysgol drwy’r brif fynedfa a rhieni i fynd nôl allan drwy’r giat werdd. Plant y bysiau i ddod oddi ar y bysiau a mynd yn syth i’r brif fynedfa. Rheini / Gwarchodwyr Meithrin i dywys eu plant i’r iard Meithrin.

Os ydych yn dod a’ch plant i’r ysgol ni ddylid eu gadael heb ofalaeth hyd nes bydd athro neu athrawes ar ddyletswydd i’w goruchwylio.

Ni chaniateir i rieni/gwarchodwyr barcio yn y maes parcio sydd o flaen y brif fyneddfa. Mae’r trefniadau yma yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch ein disgyblion ar bob adeg.

 

Hwyluso Traffig ar ffordd Brynglas Drive

Gofynnwn yn garedig am gydweithrediad pawb pan fyddwch yn dod a’ch plant i’r ysgol neu’n ymweld â’r safle mewn car. Pan fyddwch yn gyrru i safle’r Ysgol ar ôl ymadael a’r cylchdro, trowch i’r chwith ar y cyffordd-t i fynd ar Brynglas Drive. Fe fydd hyn yn eich tywys ar hyd y fordd tuag at flaen yr Ysgol. Fe fyddwn yn gwerthfawrogi pe bai pawb yn teithio mewn dull clocwedd ar Brynglas Drive. Fe fydd trafnidiaeth yn dilyn yr un canllawiau.

 

Diwedd y Diwrnod Ysgol

Ar ddiwedd y dydd, bydd y plant sy’n teithio ar fws / tacsi yn cael ei hebrwng o’r neuadd i’r bysiau gan aelodau o’r staff, yna fe drosglwyddir y cyfrifoldeb am ofal y plant i hebryngwyr y bysiau. Cesglir y plant sy’n teithio adref gyda’u rhieni o’r giât llwybyr gerdded. Rydyn yn argymell na ddylai plant gerdded i’r ysgol na mynd adref ar eu pen eu hunain, - os ydych am i hyn ddigwydd gadewch i ni wybod trwy lythyr os gwelwch yn dda. Ni chaniateir unrhyw gemau o unrhyw fath ar dir yr ysgol heb oruchwyliaeth athro neu athrawes. Oherwydd rhesymau Iechyd a Diogelwch ni ddylai rhieni adael i’w plant chwarae ar yr offer sydd ar dir yr ysgol nac yn y gerddi.

Y rhieni sy’n gyfrifol am ddiogelwch eu plant unwaith y byddant wedi eu rhyddhau o ofal y staff ar ddiwedd y dydd. Dylech egluro hyn i unrhyw berson arall a allai fod yn cwrdd â’ch plentyn o’r ysgol. Cyfrifoldeb y rhieni fydd sicrhau bod pwy bynnag sy’n casglu eu plentyn yn cyrraedd yn brydlon. Nid yw staff yr ysgol yn gyfrifol am eich plentyn ar ôl 3:15 p.m. (ac eithrio gweithgareddau ar ôl ysgol, drwy drefniant). Hysbysir y rhieni o amseroedd gorffen y gweithgareddau hyn a bydd angen eich llofnod ar slipiau caniatâd cyn bod unrhyw blentyn yn cael aros ar ôl oriau Ysgol.

 

Trefniadau ar gyfer Plant Meithrin

Fe fydd rhieni/gwarchodwyr yn tywys y plant i’r dosbarth Meithrin yn y bore ac yn ei casglu o ‘run lleoliad ar ddiwedd y sesiwn.

 

Clwb Brecwast

Cynheli’r Clwb Brecwast yn yr Ysgol o 8:20-8:50. I gofrestri mae’n rhaid cwblhau ffurflen cofrestri.

Clwb Brecwast

 

Clwb Carco

Cynhelir Clwb Carco “Sbort a Sbri” yn yr Ysgol o 3:15yp i 5:15yp. Fe fydd angen i chi gwblhau ffurflen i ymaelodi a’r clwb. Cydlyni’r Clwb gan Fenter Iaith Casnewydd.

Clwb Carco