Cwricwlwm i Gymru

Dyma gyfnod cyffrous i bobl ifanc Cymru. Mae Cwricwlwm newydd i Gymru ar y gweill fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr o 3 i 16, gan roi iddynt y sylfaen sydd ei angen i lwyddo mewn byd sy’n newid.

Ar 22 Hydref 2015, cyhoeddodd Gweinidog Addysg a Sgiliau Cwricwlwm i Gymru, cwricwlwm am oes, sef cynllun i fwrw ymlaen â’r argymhellion a bennwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus.

Mae’r cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn datblygu ein cwricwlwm newydd, sy’n eang, cytbwys, cynhwysfawr a heriol, gyda’n gilydd. Ac wrth wraidd y cwricwlwm y mae’r pedwar diben, sy’n rhoi’r cyfle i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu i fod:

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod I ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod I chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyda’u gwaith;
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd;
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Bydd y cwricwlwm yn cael ei drefnu yn 6 Maes Dysgu a Phrofiad:

  • Celfyddydau Mynegiannol;
  • Iechyd a Lles;
  • Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol ddylai aros yn orfodol i 16 oed);
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (gan gynnwys ieithoedd tramor modern yng Nghymru, a ddylai aros yn orfodol i 16 oed);
  • Mathemateg a Rhifedd;
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg (yn cynnwys cyfrifiadureg).

https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/canllaw-i-r-cwricwlwm-newydd-i-gymru-canllaw-i-rieni/