Gwarchod Plant

Y Pennaeth sydd wedi ei henwi fel y person sy’n gyfrifol am drefniadaeth Gwarchod Plant yn yr ysgol. Mae lles a gofal ein disgyblion yn holl bwysig, ac os oes amheuaeth bod plentyn yn cael ei gamdrin neu ei amddifadu’n bersonol neu’n emosiynol fe fydd y Pennaeth yn cysylltu a’r gwasanaethau priodol megis y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Nid oes rhaid hysbysu’r rhieni wrth gyfeirio plentyn ymhob achos.