Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2

Ar Google Classroom bydd Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn rhannu lluniau o waith a gweithgareddau mae’r dysgwyr wedi gwneud yn ystod yr wythnos. Mae’r dosbarthiadau hefyd yn rhoi pwyntiau Dojo i’r dysgwyr, bydd y dysgwyr yn derbyn cyfanswm eu pwyntiau pob dydd Gwener.

 

Blwyddyn 3, Blwyddyn 4, Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6

Bydd athrawon Blwyddyn 3, 4, 5 a 6 yn gosod tasgau i’r dysgwyr i wneud yn yr ysgol ac fel gwaith cartref. Gofynnwn yn garedig i chi beidio rhannu pethau personol ar Google Classrooms, mae’r plant yn cael amser i ddangos a rhannu yn y dosbarth. Yn ogystal â gwneud tasgau a dangos gwaith bydd yr athrawon yn ysgrifennu cyhoeddiadau i’r rhieni/gwarchodwyr a’r dysgwyr. Dyma lle bydd yr athrawon yn rhannu’n wythnosol pa sgiliau mae’r plant yn ffocysu ar yn ystod yr wythnos.

Google Classroom