Agorir drysau Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon i ddisgyblion ym mis Medi 2011, trydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg Casnewydd, i fodloni'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae'r ysgol wedi ei henwi ar ôl Teyrnon Twf Gwliant, cymeriad o'r Mabinogion, sef casgliad o straeon Cymraeg canoloesol. Teyrnon oedd arglwydd Gwent-yn-Coed yn stori Pwyll a Rhiannon.
Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon i gychwyn yn rhannu safle gydag Ysgol Gynradd Maindee. Agorir yr ysgol gyda 16 o blant mewn dosbarth cychwynnol ar gyfer disgyblion meithrin a derbyn. Hyd yn hyn mae wedi bod yn daith sydd wedi ymgorffori ymhellach ethos hapus a diogel i’n holl blant. Symuded Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon i’w lleoliad parhaol ym Medi 2013 - safle blaenorol Ysgol Gynradd Brynglas. Lleolir Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ar y safle dros dro tan Awst 2018, mewn adeiladau ar wahân. Mae wedi bod yn fraint i gael rhieni a ffrindiau cefnogol sydd wedi cofleidio’r ysgol newydd.