Cyngor yr Ysgol a’r Cyngor Eco

Rydyn yn cymryd barn ein plant o ddifrif, eu hysgol nhw yw Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon. Mae’r Cyngor Ysgol yn cynnwys disgyblion o bob blwyddyn ysgol, bydd yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion sy’n bwysig i’r plant. Etholir aelodau i’r Cyngor Ysgol a’r Cyngor Eco gan y plant eu hunain ac mae ganddynt rôl werthfawr a phwysig i’w chwarae wrth benderfynu sut mae’r ysgol yn datblygu ac yn ymwneud a materion yr Amgylchfyd. Mae cyfleoedd niferus i blant drwy’r ysgol i gael lleisio eu barn i’r aelodau.

Siarter Iaith

Nod y Siarter Iaith yn syml ydy arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. Yn syml, cael y plant i siarad mwy o Gymraeg.

Mae rhaglen weithredu wedi ei llunio sydd yn rhaid i bob ysgol ei phasio. Rydym ni wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflawni'r Wobr Efydd ac Arian. Rydym ni nawr yn gweithio tuag at y Wobr Aur. Mae Dreigiau Siarter Iaith yr ysgol yn cwrdd i drafod syniadau a dewis heriau'r mis. Edrychwch allan am Heriau'r Dreigiau Siarter Iaith pob mis ar Trydar a Google Classroom! 

#cyngorecoygbt

#cyngorysgolygbt

#siygbt

#llesygbt

#digidolygbt