Disgyblion a Gwarchodwyr sydd ag Anableddau

Nid yw’r ysgol yn gwahaniaethu yn erbyn disgyblion nag oedolion sydd â anabledd corfforol. Mae’r adeilad yn sicrhau y gellir symud cadeiriau olwyn yn rhwydd o amgylch yr adeilad ac i ardaloedd chwarae’r ysgol. Fe fydd toiledau pwrpasol ar gyfer y disgyblion ac oedolion anabl yn y brif fynedfa. Dynodwyd safleoedd arbennig er mwyn i gerbydau allu gollwng a chodi disgyblion ag anabledd corfforol yn rhwydd.

Er mwyn hwyluso mynediad i’r ysgol i bob disgybl, rhiant neu warchodwyr a all fod ag unrhyw anabledd, gofynnir yn garedig am wybodaeth am yr anabledd wrth dderbyn y plentyn i’r ysgol a’i ddiwedaru yn ol yr angen.

 

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Yn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon, rydyn yn cydnabod bod gan bob plentyn yr hawl i fynediad i gwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol. Mae pob aelod o’r staff yn derbyn hyfforddiant mewn agweddau ar anghenion dysgu ychwanegol a’r Cod Ymarfer statudol er mwyn diweddaru eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn barhaus.

Mae gweithdrefnau monitro ac asesu gofalus yn sicrhau bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu nodi’n gynnar. Mae’r athro neu’r athrawes ddosbarth, yr Arweinydd Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Pennaeth yn cyfarfod i drafod unrhyw achos sy’n peri pryder. Hysbysir y rhieni/gwarchodwyr, ac os bydd angen, gofynnir am ganiatâd y rhieni/gwarchodwyr i nodi’r plentyn ar y gofrestr anhengion dysgu ychwanegol neu i gyfeirio’r disgybl at sylw asiantaethau allanol arbennigol.

Bydd y disgyblion sydd â datganiadau o anghenion dysgu ychwanegol un cael eu cynnwys yn y dosbarthiadau prif ffrwd. Caiff y disgyblion hyn fynediad llawn i’r cwricwlwm. Cânt hefyd gymorth ychwanegol gan yr Arweinydd Anghenion dysgu Ychwanegol a’r staff cynorthwyol yn ogystal â’r athro neu’r athrawes ddosbarth. O bryd i’w gilydd bydd angen gofyn i asiantaethau cynnal allanol helpu gyda disgyblion penodol. Hysbysir y rhieni/gwarchodwyr cyn i hyn ddigwydd.

Mae’r disgyblion sydd â datganiad o Angen Dysgu Ychwanegol a’r rhai sydd ar y gofrestr anghenion ychwanegol yn dilyn Rhaglenni Addysg Unigol o fewn cyd-destun dosbarthiadau prif ffrwd.