Cynllun Datblygu 2022-2023

Blaenoriaeth 1 Gwerthuso ac ymestyn ein darpariaeth er mwyn cefnogi anghenion ein dysgwyr a chodi safonau mewn Iaith a Llythrennedd.
Blaenoriaeth 2 Gwerthuso ac ymestyn ein darpariaeth er mwyn cefnogi anghenion ein dysgwyr a chodi safonau o fewn Mathemateg a Rhifedd
Blaenoriaeth 3 Sicrhau bod yr holl strwythurau a systemau o fewn ysgol yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru gan ganolbwyntio'n     benodol mewn perthynas â dilyniant a darparu dysgu proffesiynol i gefnogi hyder ymarferwyr o fewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Blaenoriaeth 4 Sicrhau bod yr holl strwythurau a systemau o fewn yr ysgol yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru gan ganolbwyntio'n benodol mewn perthynas â dilyniant a darparu dysgu proffesiynol i gefnogi hyder ymarferwyr ym meysydd Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol.
Blaenoriaeth 5 Sicrhau bod yr holl strwythurau a systemau o fewn yr ysgol yn cefnogi'r gwaith o gyflawni Cwricwlwm i Gymru gan ganolbwyntio'n benodol mewn perthynas ag Asesu.
Blaenoriaeth 6 Ymgorffori lles ac ecwiti i bawb gan ganolbwyntio ar ddysgu proffesiynol a nodwyd o fewn y strategaeth Llesiant Ysgolion Cyfan