Creu amgylchfyd a naws a fydd yn hybu parch, gofal, cyfeillgarwch a chydweithio ystyrlon a theimladwy rhwng oedolion a disgyblion, ble y gall pob disgybl brofi sbectrwm eang o weithgareddau gwerthfawr a buddiol ac, yn sgil pob ymdrech, profi boddhad a llwyddiant.

  1. Ysgol groesawgar sy’n hyrwyddo ymdeimlad o berthyn trwy ddatblygu perthynas gyda’r holl gymuned.
  2. Datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n cyrraedd eu llawn botensial ymhob agwedd o’r cwricwlwm trwy ddysgu dilys, pwrpasol ac uchelgeisiol trwy ystod o brofiadau cyfoethog.
  3. Tegwch a chydraddoldeb i bob disgybl, waeth beth fo’i ryw, grefydd neu hil.
  4. Gwerthoedd clir sy’n datblygu dinasyddion egwyddorol a gwybodus sydd yn dangos parch tuag at eu cymuned lleol a thu hwnt
  5. Pwysleisio pwysigrwydd ymddygiad, cwrteisi ac ymddangosiad tuag at bawb.
  6. Annog dysgwyr i fod yn annibynnol, yn greadigol ac yn fentrus trwy ddatblygu eu sgiliau meddwl, eu gallu i brosesu gwybodaeth, eu gallu i resymu ac i ymholi a gwerthuso.
  7. Hybu’r iaith Gymraeg yn y gymuned a chreu diwylliant er mwyn i’r disgyblion ddatblygu’n siaradwyr Cymraeg naturiol ac i ymfalchio yn eu hunaniaeth.
  8. Annog a chefnogi ein dysgwyr i fod yn unigolion iach a hyderus gan feithrin lles emosiynol, ysbrydol a chorfforol.