Mae dwy ran o dair o boblogaeth y byd yn ddwyieithog, y newyddion da yw ei bod yn hawdd i unrhyw blentyn gael ei fagu’n ddwyieithog yng Nghymru.

Pam trafferthu?

  • gall eich plentyn siarad dwy iaith ac felly fwynhau dau ddiwylliant gwahanol iawn;
  • mae plant dwyieithog yn datblygu sgiliau eraill fel sgiliau datrys problemau a sgiliau meddwl yn greadigol yn gyflymach na phlant sydd ond yn siarad un iaith ac maent yn aml yn llwyddo’n well yn yr ysgol ac mewn arholiadau;
  • mae nifer cynyddol o gyflogwyr yng Nghymru yn ystyried bod y gallu i siarad Cymraeg yn fantais, felly fe allai bod yn ddwyieithog fod yn fanteisiol iawn pan fydd eich plentyn yn chwilio am swydd yn y dyfodol;
  • mae dysgu unrhyw sgil yn haws pan fyddwch yn ifanc – gorau po gyntaf!

Oni fydd fy mhlentyn yn drysu?

  • mae cymysgu’r ddwy iaith yn ystod y camau cynnar yn gwbl naturiol;
  • nid yw hyn yn golygu bod eich plentyn yn ddryslyd, o fewn ychydig o amser bydd y ddwy iaith yn ymwahanu’n gwbl naturiol.

Cyngor Dinal Casnewydd bod yn dwyiethog