Cwricwlwm, Addysgu a Dysgu

Yn ychwanegol i’r cwricwlwm cenedlaethol fe gymhwysir y canlynol i’r addysgu:

  • Y Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol
  • Y Fframwaith Rhifedd Cenedlaethol
  • Fframwaith Cymhwysedd Digidol
  • Sgiliau meddwl a datrus problemmau
  • Cwricwlwm Cymreig
  • Dysgu i Ddysgu
  • Asesu ar gyfer Dysgu
  • Asesu o’r Dysgu
  • Athroniaeth i Blant
  • Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu (S.E.A.L.) a cynllyn lles Jigsaw
  • Meddwlgarwch
  • Meddylfryd o Dwf

Mae dysgu yn golygu chwilio am ystyr, gosod strwythur i ddealltwriaeth, mynd y tu hwnt i’r wybodaeth a roddir a delio mewn ffordd systematig ond hyblyg gyda phroblemau newydd. Rhaid annog y disgybion i fabwysiadu agwedd feirniadol tuag at wybodaeth ac i gyfathrebu yn effeithiol. Rhaid hyfforddi’r disgyblion i feddwl ac i ddysgu yn fwy effeithiol, yn ogystal a’u hyfforddi i ddeall yr hyn sy’n angenrheidiol i fod yn ddysgwyr da.