Nod canllawiau Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddablygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at pedwar diben y cwricwlwm – y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Cwricwlwm i Gymru

 

Creadigrwydd ac arloesi

Dylid rhoi lle i ddysgwyr fod yn chwilfrydig ac yn ymholgar, ac i greu llawer o syniadau. Dylen nhw gael eu cefnogi i gysylltu gwahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau, a gweld, archwilio a chyfiawnhau datrysiadau amgen. Dylen nhw allu adnabod cyfleoedd a chyfleu eu strategaethau. Dylai hyn gefnogi dysgwyr i greu gwerth o wahanol fathau.

Meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Dylai dysgwyr gael eu cefnogi i ofyn cwestiynau ystyrlon, ac i werthuso gwybodaeth, tystiolaeth a sefyllfaoedd. Dylen nhw allu dadansoddi a chyfiawnhau datrysiadau posibl, gan adnabod materion a phroblemau posibl. Dylai dysgwyr ddod yn wrthrychol wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau, gan adnabod a datblygu dadleuon. Dylen nhw allu cynnig datrysiadau sy'n creu gwerth o wahanol fathau.

Effeithiolrwydd personol

Dylai dysgwyr feithrin deallusrwydd ac ymwybyddiaeth emosiynol, gan ddod yn hyderus ac yn annibynnol. Dylen nhw gael cyfleoedd i arwain dadleuon a thrafodaethau, gan ddod yn ymwybodol o oblygiadau cymdeithasol, diwylliannol, egwyddorol a chyfreithiol eu dadleuon. Dylen nhw allu gwerthuso eu dysgu a'u camgymeriadau, gan adnabod meysydd i'w datblygu. Dylen nhw ddod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy, gan allu adnabod a chydnabod gwerth o wahanol fathau ac yna ddefnyddio'r gwerth hwnnw.

Cynllunio a threfnu

Lle y bo'n ddatblygiadol briodol, dylai dysgwyr allu gosod nodau, gwneud penderfyniadau a monitro canlyniadau interim. Dylen nhw allu myfyrio ac addasu, yn ogystal â rheoli amser, pobl ac adnoddau. Dylen nhw allu gwirio cywirdeb a chreu gwerth o wahanol fathau.

Drwy feithrin y sgiliau hyn, bydd dysgwyr yn gallu gweithio ar draws disgyblaethau, gan roi cyfleoedd iddyn nhw syntheseiddio a dadansoddi. Mae potensial penodol i arloesi wrth wneud a defnyddio cysylltiadau rhwng gwahanol ddisgyblaethau a Meysydd.

Wrth feithrin y sgiliau hyn, dylai dysgwyr:

  • Feithrin gwerthfawrogiad o ddatblygu cynaladwy a'r heriau sy'n wynebu dynoliaeth
  • Meithrin ymwybyddiaeth o ddatblygiadau technolegol sy'n dod i'r amlwg
  • Cael eu cefnogi a'u herio er mwyn iddyn nhw fod yn barod i fodloni'r galwadau sy'n gysylltiedig â gweithio mewn sefyllfaoedd ansicr yn hyderus, wrth i gyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang arwain at heriau newydd a chyfleoedd i lwyddo
  • Cael lle i ddatblygu syniadau creadigol a gwerthuso dewisiadau amgen mewn modd beirniadol. Mewn byd sy'n newid yn gyson, bydd hyblygrwydd a'r gallu i ddatblygu mwy o syniadau yn galluogi dysgwyr i ystyried ystod ehangach o datrysiadau amgen pan fydd pethau'n newid
  • Meithrin eu gwydnwch a datblygu strategaethau a fydd yn eu helpu i reoli eu lles. Dylen nhw fod yn cael profiadau lle y gallan nhw ymateb yn gadarnhaol yn wyneb heriau, ansicrwydd neu fethiant
  • Dysgu i weithio'n effeithiol gydag eraill, gan werthfawrogi'r gwahanol gyfraniadau y maen nhw eu hunain ac eraill yn eu gwneud. Dylen nhw hefyd ddechrau cydnabod cyfyngiadau eu gwaith eu hunain a chyfyngiadau pobl eraill wrth iddyn nhw feithrin dealltwriaeth o'r ffordd y mae gwahanol bobl yn chwarae gwahanol rolau mewn tîm.