Yn ystod amser cinio bydd tîm o oruchwylwyr cyfnod cinio yn gofalu am y plant. Bydd prydau bwyd yn cael eu dosbarthu bob dydd yng nghegin yr ysgol. I’r rheini nad ydynt yn bwyta cig gellir darparu pryd llysieuol hefyd. Os na fydd y plant am gael pryd bwyd ysgol gallant ddod â brechdanau o adref. (Er mwyn helpu i gynllunio prydau bwyd eich plentyn, mae’r bwydlenni ar gael o’r swyddfa ar gais.)

Dylid thalu am prydau bwyd ar ParentPay. Rhaid talu am bob cinio bob dydd yn brydlon i gwmni Chartwells - ni fyddant yn caniatau unrhyw ddyled.  Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cinio am ddim, gellir cael ffurflen gais o swyddfa’r ysgol. Nodir rhaid talu am ginio Ysgol tan bod eich cais am prydiau cinio am ddim wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol.

Er budd iechyd a diogelwch, os yw’r plant yn dod â brechdanau i’r ysgol, ni chaniateir unrhyw boteli gwydr neu ganiau. Dylech hefyd sicrhau bod pob blwch cinio a photel wedi’u labelu yn glir.

ParentPay

Mewn ymgais i leihau’r arian parod a sieciau o’r ysgol, rydym yn gofyn i bob rhiant/warchodwr ddefnyddio ein dull e-dalu i dalu am arian cinio, tripiau, gwersi offerynnol ac arian ffrwyth i Flynyddoedd Meithrin i Flwyddyn 6. Gallwch wneud hyn ar-lein gan ddefnyddio gwefan ddiogel iawn o’r enw ParentPay neu gallwch dalu mewn arian parod yn y siopau lleol lle gwelwch logo PayPoint.  Fe fydd Rhieni/Gwarchodwyr yn derbyn llythyr gyda’r holl fanylion i fewngofnodi pan fydd eu plentyn yn cychwyn yn yr ysgol a fydd yn cynnwys enw defnyddiwr a chyfrinair.

Byddwch yn defnyddio cyfrif diogel ar-lein, a fydd yn cael ei ysgogi trwy ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw; cewch eich annog i newid y rhain a’u cadw’n ddiogel fel Enw Defnyddiwr a Chyfrinair i fewngofnodi yn y dyfodol. Bydd yn rhaid i chi fod â chyfeiriad e-bost byw i ddechrau eich cyfrif. Y cyfeiriad e-bost yma fydd y brif ffordd o gysylltu ar gyfer system ParentPay o’r ysgol. Bydd yn rhaid i chi fod â chyfeiriad e-bost byw i ddechrau eich cyfrif ParentPay.

Os oes gennych ddau neu ragor o blant mewn unrhyw ysgol sy’n defnyddio ParentPay, dim ond unwaith mae’n rhaid ysgogi un cyfrif i greu eich ‘prif gyfrif’ ac yna ychwanegwch y plant eraill trwy’r tab “Add a child tab” ar eich tudalen Gartref.

Mae ParentPay yn cadw cofnod electronig o’ch taliad i’w weld yn ddiweddarach. Wedi i chi gychwyn eich cyfrif, gallwch wneud taliadau ar-lein ar unwaith.

Dylai’r rhieni/warchodwyr sy’n dymuno talu ag arian parod gysylltu â’r ysgol i wneud cais i dalu trwy PayPoint.

Archebu Cinio Ysgol

Fe fydd angen i bob rhiant/warcheidwad sicrhau eu bod yn archebu'r prydau bwyd ar-lein. Fe fydd angen i chi sicrhau eich bod wedi archebu prydau erbyn 10pm y noson flaenorol. Os na fydd eich cyfrif mewn credyd fe fydd ParentPay yn ddileu eich archeb cinio.