Pan fyddwch yn ystyried Addysg Gymraeg i’ch plentyn/plant ‘rydych yn ymuno â’r nifer gynyddol o rieni yng Nghymru sydd yn gweld fod manteision i’w plant mewn addysg ddwyieithog. Wrth wneud eich dewis, fe fyddwch wedi llawn sylweddoli y sialens a gyflwynir gan addysg ddwyieithog – nid yn unig i’r plant a’r athrawon ond i chi, y rhieni, hefyd. Mae’r sialens yn fwy os yw iaith y cartref yn wahanol i iaith yr ysgol. Er hyn, mae ymuno ag addysg ddwyieithog yn cynnig sialens gyffrous ac mae gennych chi, y rhieni, rôl bwysig i’w chwarae ‘prun ai Cymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf y cartref.

Prosbectws Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon